Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin @ Ngholeg Sir Gâr wedi creu oriel Rithwirionedd (VR) bwrpasol a adeiladwyd â llaw fwyaf y DU er mwyn arddangos gwaith celf a dylunio myfyrwyr.
Er gwaethaf heriau heb eu tebyg pandemig byd-eang, mae staff yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Nghymru wedi creu llwyfan rhithwir i ddathlu cyflawniadau, creadigrwydd ac arloesedd myfyrwyr blwyddyn olaf o’u holl gyrsiau Celf a Dylunio. Mae’r myfyrwyr wedi mynd i’r afael â her wirioneddol wrth addasu i beth sydd wedi bod yn derfyn annisgwyl i’w cyrsiau ond mae eu hymdrechion wedi bod yn neilltuol
Meddai Paula Phillips Davies, Pennaeth Ysgol Gelf Caerfyrddin: “Rydym wedi manteisio ar arbenigedd ein cyrsiau gradd dylunio 3D a rhithwirionedd, celf gysyniad, darlunio a ffotograffiaeth i adeiladu oriel rithwir. O ganlyniad, byddwn yn gallu dangos y gwaith anhygoel mae ein myfyrwyr wedi’i greu. Mae’r oriel ar-lein hon wedi darparu cyfle gwych i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol nag erioed; dyma’r tro cyntaf y byddwn yn gallu arddangos gwaith ein holl gyrsiau gradd ac addysg bellach ar yr un pryd ‘dan un to’. Yn ogystal, rydym hefyd wedi gwahodd ein cydweithwyr celf a dylunio yng Ngholeg Ceredigion i arddangos gwaith eu myfyrwyr gyda ni yn yr hyn fydd yn datblygu i fod yn arddangosfa fwyaf o’i math.”
Mae’r ysgol gelf yn arbennig o adnabyddus am ei dull wedi’i bersonoli tuag at addysgu, dysgu a chefnogi myfyrwyr. Mae dosbarthiadau bach o ran nifer yn sicrhau bod myfyrwyr yn ffynnu ac yn datblygu sgiliau proffesiynoldeb a gwytnwch.
Meddai Imogen Mills sy’n fyfyrwraig gradd decstilau: “Roedd yna ymdeimlad o golled, oherwydd y terfyn sydyn. Ond fe wnaeth yr hiraeth esgor ar gyfle i ddod ynghyd o’r newydd. Gwnaeth tawelwch, llonyddwch ac amser greu gwytnwch a dyfeisgarwch. Ni chollwyd y teimlad o gymuned yn ystod y dyddiau dan glo yma, yn hytrach roedd yn ein gyrru ymlaen bob dydd. Ein sioe ni yw hon; penllanw dyfalwch eithriadol ac addasrwydd helaeth artistiaid.”
Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld gwaith o ystod lawn o ddisgyblaethau gan gynnwys cerameg a gemwaith, darlunio digidol, ffasiwn, peintio, lluniadu a gwneud printiau, graffeg, ffotograffiaeth, cerflunio, tecstilau, cyfryngau cymysg, animeiddio, fideo a gwaith amlddisgyblaethol.
Anogir y cyhoedd i fwrw golwg ar yr arddangosfa o gysur eu cartrefi eu hunain wrth i ni ddadorchuddio’r arddangosfa rithwir.
Rhyddheir dolen gyswllt ar ddydd Gwener Mehefin 26 at 1yp ar wefannau’r coleg https://www.colegsirgar.ac.uk a https://www.ceredigion.ac.uk
SIOE 2020 https://seekbeak.com/v/NAp1Pgx3qXo
Bydd yr arddangosfa ar gael drwy gydol yr haf.
Dilynwch Ysgol Gelf Caerfyrddin a Choleg Ceredigion ar Facebook ac Instagram.
Facebook: CarmarthenSchoolOfArt Coleg Ceredigion
Instagram @carmarthenschoolofart
Cyswllt: csofa@colegsirgar.ac.uk
More stories